I goffáu canmlwyddiant Lloyd George yn brif weinidog, mae Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy wedi lansio apêl i godi arian i helpu i ddatblygu’r amgueddfa.
Bydd yr apêl o gymorth i helpu sicrhau dyfodol yr amgueddfa a’r holl waith rydym yn ei wneud i gadw a rhannu bywyd ac amseroedd y dyn gwirioneddol fawr hwn.
Mae’n cynlluniau ar gyfer y canmlwyddiant yn cynnwys y canlynol a defnyddir eich rhoddion i’w gwireddu.
- Arddangosfa newydd yn yr amgueddfa ynghylch ei fywyd a’i gyfraniad gwleidyddol, yn enwedig fel Prif Weinidog yn ystod y Rhyfel Mawr.
- Gweithdai, darlithoedd a digwyddiadau yn trafod swydd Prif Weinidogion a democratiaeth adeg rhyfel ac yn ystod heddwch.
- Arddangosfa mewn nifer o fannau ar ‘Delweddau o Lloyd George’ yn dangos sut y cafodd delweddau o Lloyd George eu hyrwyddo mewn darluniau, ffotograffau, cardiau post, cerameg a rhagor
- Creu darn newydd o gelf mewn partneriaeth ag Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd
- Adeiladu partneriaethau gyda sefydliadau eraill i rannu casgliadau, gwybodaeth ac ymchwil
- Datblygu’r llyfrgell fel adnodd addysgiadol a lle i astudio
Rydym hefyd yn bwriadu cynnal cinio dathlu yn Llundain i gofio’r dydd y daeth Lloyd George yn Brif Weinidog ac yn edrych ymlaen at gyhoeddi’r manylion yn fuan.
Cydlynydd yr Apêl – Elizabeth George
Y Pwyllgor Gwaith:
- Philip George (Llywydd)
- Emrys Williams (Cadeirydd)
- Nesta Jones (Trysorydd)
- Richard Roberts (Ysgrifennydd)
- Nest Thomas (Amgueddfa Lloyd George)