{"id":28,"date":"2016-01-04T14:32:18","date_gmt":"2016-01-04T14:32:18","guid":{"rendered":"https:\/\/lloydgeorge.net\/?page_id=28"},"modified":"2024-07-25T13:37:31","modified_gmt":"2024-07-25T12:37:31","slug":"about-lloyd-george","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/about-lloyd-george\/","title":{"rendered":"Ynghylch Lloyd George"},"content":{"rendered":"<p>Ffurfiwyd llawer iawn o&#8217;n ffawd, ar adeg o heddwch ac ar adeg o ryfel, gan yr un dyn hwn. Fel gweithredwr, llawn dyfeisgarwch ac egni creadigol, safai, yn ei anterth, heb ei ail.&#8217;<\/p>\n<p>Teyrnged Winston Churchill i David Lloyd George yn y Senedd 1945<\/p>\n<p>Mae llawer o bobl yn ystyried fod David Lloyd George cyfuwch &#8216; Winston Churchill fel yr arweinwyr gorau a welodd Prydain erioed.<\/p>\n<p>Meddyliwch am rai yn unig o lwyddiannau Lloyd George wrth i&#8217;r wlad symud o oes Fictoria :<\/p>\n<ul>\n<li>Trethu&#8217;r cyfoethog er mwyn helpu&#8217;r tlodion<\/li>\n<li>Cyflwyno cynllun pensiwn<\/li>\n<li>Arwain y wlad yn ystod y Rhyfel Mawr<\/li>\n<li>Rhoi&#8217;r bleidlais i ferched<\/li>\n<li>Gosod sylfaen y wladwriaeth les<\/li>\n<\/ul>\n<p>Er gwaethaf yr anawsterau roedd yn eu hwynebu, mae cymaint o&#8217;r hyn a helpodd i wneud Prydain yn fawr yn ystod yr 20fed ganrif yn waith Lloyd George.<\/p>\n<p>O gofio cynni ei fagwraeth, mae hyn oll yn rhyfeddol. Bu farw tad Lloyd George, a oedd yn ysgolfeistr, yn ifanc gan ei adael yng ngofal ei fam a&#8217;i ewythr Richard Lloyd y crydd.<\/p>\n<p>Cafodd ei fagu ym mhentref gwledig Llanystumdwy a oedd, yr adeg hynny, mor anghysbell o Lundain a&#8217;i bywyd gwleidyddol ag unrhyw fan ym Mhrydain. Ond gyrrodd ei uchelgais a&#8217;i gred wleidyddol gref Lloyd George yr holl ffordd i 10 Stryd Downing.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n hamgueddfa&#8217;n dangos yn fyw y daith nodedig hon ac anawsterau a chyflawniadau ei yrfa nodedig.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ffurfiwyd llawer iawn o&#8217;n ffawd, ar adeg o heddwch ac  [&#8230;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-28","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/28","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=28"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/28\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":424,"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/28\/revisions\/424"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=28"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}