{"id":6,"date":"2016-01-04T13:59:21","date_gmt":"2016-01-04T13:59:21","guid":{"rendered":"https:\/\/lloydgeorge.net\/?page_id=6"},"modified":"2026-04-08T12:40:42","modified_gmt":"2026-04-08T11:40:42","slug":"home","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/","title":{"rendered":"Hafan"},"content":{"rendered":"<p>Gwladweinydd, gweledydd, diwygiwr mae David Lloyd George wedi gadael stamp parhaol ar hanes Cymru, hanes Prydain a hanes y byd. Rhoddodd sylw i Gymru a materion Cymreig ar lwyfan cenedlaethol a daeth yn un o arweinyddion gwleidyddol mwyaf pwysig Prydain yn yr ugeinfed ganrif.<\/p>\n<p>Cyflwynodd gyfres o ddiwygiadau cymdeithasol o bensiynau&#8217;r henoed i yswiriant diweithdra; mi wnaeth foderneiddio cyllidebau Prydeinig a pholisiau ariannol; ffrwynodd ddiwydiant Prydain ar gyfer ymdrech y Rhyfel Fawr ac fel Prif Weinidog fe dynnodd y wlad at ei gilydd a&#8217;i harwin i fuddugoliaeth yn 1918. Yn ystod y trafodaethau heddwch dilynol roedd yn un o&#8217;r Tri Mawr a ffurfiodd fap y byd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n rhaid cofio a choffhau y cymeriad eithriadol ac amlochrog yma ac nid oes unlle gwell i wneud hyn nag yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, y pentref lle i fagwyd, a sy&#8217;n croniclo hanes rhyfeddol ei daith o&#8217;r pentref i Rif 10 Stryd Downing.<\/p>\n<p>Dros gan mlynedd ers iddo dod yn Brif Weinidog erys yr unig Cymro Cymraeg erioed i wneud hynny, erys yr unig gyfreithiwr erioed i fod yn Brif Weinidog ac erys yr unig unigolyn o gefndir gwerinol tlawd heb unrhyw addysg ffurfiol tu hwnt i ysgol y pentref i fod yn Brif Weinidog.<\/p>\n<p>Mae hanes Lloyd George yn unigryw yn hanes Cymru ac yn hanes Prydain. Mae Amgueddfa Lloyd George yn un o ddau amgueddfa yn unig wedi eu neilltuo&#8217;n arbennig i brif weinidogion (Amgueddfa Winston Churchill ydi&#8217;r llall).<\/p>\n<p>Mewn cyfnod lle mae tlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol mor berthnasol ag erioed yn hanes Cymru a hanes Prydain mae&#8217;r amgueddfa yn adnodd o werth hanesyddol enfawr.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Ynglyn \u00e2&#8217;r Amgueddfa<\/h2>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"alignright size-full wp-image-91\" src=\"https:\/\/lloydgeorge.net\/wp-content\/uploads\/feat-museum.jpg\" alt=\"\" width=\"296\" height=\"296\" srcset=\"https:\/\/lloydgeorge.net\/wp-content\/uploads\/feat-museum-66x66.jpg 66w, https:\/\/lloydgeorge.net\/wp-content\/uploads\/feat-museum-150x150.jpg 150w, https:\/\/lloydgeorge.net\/wp-content\/uploads\/feat-museum.jpg 296w\" sizes=\"(max-width: 296px) 100vw, 296px\" \/><\/p>\n<p>Mae Amgueddfa Lloyd George a Highgate yn lleoedd gwych i ymweld nhw. Byddwch yn darganfod rhagor am fywyd ac amseroedd hynod un o arweinwyr mwyaf Prydain.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/lloydgeorge.net\/about-the-museum\/\">Cliciwch yma i ddysgu rhagor<\/a><\/p>\n<h2>Dewch yn Gyfaill<\/h2>\n<p>Helpwch i gefnogi&#8217;r Amgueddfa drwy ddod yn Gyfaill. Mae Cyfeillion yn cael mynediad am ddim i&#8217;r amgueddfa yn ogystal gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/lloydgeorge.net\/become-a-friend\/\">Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George<\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" class=\"alignright size-full wp-image-90\" src=\"https:\/\/lloydgeorge.net\/wp-content\/uploads\/feat-become-a-friend.jpg\" alt=\"\" width=\"296\" height=\"296\" srcset=\"https:\/\/lloydgeorge.net\/wp-content\/uploads\/feat-become-a-friend-66x66.jpg 66w, https:\/\/lloydgeorge.net\/wp-content\/uploads\/feat-become-a-friend-150x150.jpg 150w, https:\/\/lloydgeorge.net\/wp-content\/uploads\/feat-become-a-friend.jpg 296w\" sizes=\"(max-width: 296px) 100vw, 296px\" \/><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gwladweinydd, gweledydd, diwygiwr mae David Lloyd George wedi gadael stamp  [&#8230;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-6","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":462,"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6\/revisions\/462"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/lloydgeorge.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}