Mae Amgueddfa Lloyd George yn un o ddim ond dwy amgueddfa ym Mhrydain sydd yn benodol ar gyfer cyn Brif Weinidogion – y llall yw amgueddfa Winston Churchill. Rydym yn chwarae rhan bwysig mewn cadw, deall a choffau gwaith arweinydd hynod.
Mae’r amgueddfa’n geidwad i gofnodion ac arteffactau hanesyddol bwysig sy’n dangos bywyd ac amserau arweinydd rhyfel a diwygiwr cymdeithasol ysbrydoledig. Mae cyfoeth o wybodaeth yn ein casgliadau, rhai yn dal i aros am ragor o ymchwil.
Cyngor Gwynedd sy’n talu am redeg yr amgueddfa a bwythyn Highgate, gyda chefnogaeth bellach gan Gyfeillion Amgueddfa Lloyd George, sy’n elusen gofrestredig.
Mae pwyllgor gwaith y Cyfeillion yn cynnwys:
Cadeirydd – Philip George
Is-Gadeirydd – Dr Merfyn Jones
Trysorydd – Nesta Jones
Ysgrifennydd Cwmni – Elizabeth George
Ysgrifennydd Aelodaeth – Sioned Warren
Os hoffech ymuno’r Cyfeillion a helpu i gefnogi gwaith yr amgueddfa a mwynhau manteision unigryw eraill, cliciwch yma.