
Am ffi flynyddol resymol iawn, bydd Cyfeillion yn cael mynediad am ddim i’r amgueddfa a’i chasgliad sy’n ehangu’n gyson, ac i Highgate, cartref llwm llencyndod Lloyd George.
Mae Cyfeillion hefyd yn cael eu gwahodd, yn rhad ac am ddim, i raglen o ddigwyddiadau blynyddol, gan gynnwys sgyrsiau a chyflwyniadau diddorol iawn yn ein theatr bwrpasol.
Dim ond £15 yw pris dod yn Gyfaill (£25 i ddau oedolyn o’r un cartref) a dim ond £5 i fyfyrwyr o dan 21 oed.
Cliciwch yma i lawr lwytho’n ffurflen gais.
Ni fu erioed adeg erioed mor gyffrous i ddod yn Gyfaill.
Yn 2016 lansiodd y Cyfeillion Apêl Canmlwyddiant Prifweinidogaeth Lloyd George i ddatblygu’r amgueddfa gyda phrosiectau ac arddangosion newydd ac i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau yng ngogledd Cymru, Llundain ac mewn mannau eraill ledled gwledydd Prydain.
Mae Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George yn elusen gofrestredig.