Ffurfiwyd llawer iawn o’n ffawd, ar adeg o heddwch ac ar adeg o ryfel, gan yr un dyn hwn. Fel gweithredwr, llawn dyfeisgarwch ac egni creadigol, safai, yn ei anterth, heb ei ail.’

Teyrnged Winston Churchill i David Lloyd George yn y Senedd 1945

Mae llawer o bobl yn ystyried fod David Lloyd George cyfuwch ‘ Winston Churchill fel yr arweinwyr gorau a welodd Prydain erioed.

Meddyliwch am rai yn unig o lwyddiannau Lloyd George wrth i’r wlad symud o oes Fictoria :

  • Trethu’r cyfoethog er mwyn helpu’r tlodion
  • Cyflwyno cynllun pensiwn
  • Arwain y wlad yn ystod y Rhyfel Mawr
  • Rhoi’r bleidlais i ferched
  • Gosod sylfaen y wladwriaeth les

Er gwaethaf yr anawsterau roedd yn eu hwynebu, mae cymaint o’r hyn a helpodd i wneud Prydain yn fawr yn ystod yr 20fed ganrif yn waith Lloyd George.

O gofio cynni ei fagwraeth, mae hyn oll yn rhyfeddol. Bu farw tad Lloyd George, a oedd yn ysgolfeistr, yn ifanc gan ei adael yng ngofal ei fam a’i ewythr Richard Lloyd y crydd.

Cafodd ei fagu ym mhentref gwledig Llanystumdwy a oedd, yr adeg hynny, mor anghysbell o Lundain a’i bywyd gwleidyddol ag unrhyw fan ym Mhrydain. Ond gyrrodd ei uchelgais a’i gred wleidyddol gref Lloyd George yr holl ffordd i 10 Stryd Downing.

Mae’n hamgueddfa’n dangos yn fyw y daith nodedig hon ac anawsterau a chyflawniadau ei yrfa nodedig.