Beth fyddwch chi’n ei ganfod wrth ymweld ag Amgueddfa Lloyd George a Highgate?

  • Byddwch yn canfod arddangosfa unigryw o bethau ‘ cistanau a sgroliau a gyflwynwyd iddo fel breintiau rhyddid, medalau, darluniau, lluniau, dogfennau megis Cytundeb Versailles, ‘coron Lloyd George’, gwisgoedd ac eitemau personol.
  • Cewch fwynhau ffilm am Lloyd George yn ein theatr a gweld pen anhygoel sy’n siarad
  • Ewch i Gornel y Plant lle’r adroddir hanesion plentyndod David, ei frawd Willliam a’i chwaer Mary Ellen.
  • Ewch i mewn i ystafell ddosbarth ysgol o oes Fictoria
  • Teithiwch yn ‘l mewn amser a gweld bwythyn Highgate, cartref Fictorianaidd llencyndod Lloyd George, gyda gweithdy crydd ei ewythr.
  • Prynwch lyfrau a chofroddion o’r siop.

Mae Highgate wedi’i ddodrefnu fel ag y byddai pan oedd Lloyd George yn byw yno yn blentyn rhwng 1864 ac 1880. Yma mae desgiau gwreiddiol Lloyd George a’i frawd William ac mae gweithdy crydd ei Ewythr wedi’i ail greu. Mae croeso i chi grwydro fel y mynnoch a mwyhau gardd bwythyn oes Fictoria.

Dim ond cam neu ddau ar lwybr hudolus ar lan yr afon mae bedd Lloyd George, a ddyluniwyd gan Clough Williams Ellis, pensaer Portmeirion. Gallwch grwydro ymhellach mewn cylch at gartref olaf Lloyd George, yr hanesyddol D? Newydd, ac o gwmpas pentref hardd Llanystumdwy.

Dewch ‘ phicnic a diodydd i fwynhau cinio ar ein tiroedd tawel, preifat.

Mae’r pentref ar lan Afon Dwyfor mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, gyda’r mynyddoedd a’r m’r i’w gweld ar bob cam. Mae Cricieth a’i chastell gerllaw, tref harbwr fywiog Porthmadog a thref farchnad Pwllheli ychydig ymhellach, sy’n ei gwneud yn hawdd cynnwys ymweld ag Amgueddfa Lloyd George fel rhan o ddiwrnod gwych allan.