Gwladweinydd, gweledydd, diwygiwr mae David Lloyd George wedi gadael stamp parhaol ar hanes Cymru, hanes Prydain a hanes y byd. Rhoddodd sylw i Gymru a materion Cymreig ar lwyfan cenedlaethol a daeth yn un o arweinyddion gwleidyddol mwyaf pwysig Prydain yn yr ugeinfed ganrif.

Cyflwynodd gyfres o ddiwygiadau cymdeithasol o bensiynau’r henoed i yswiriant diweithdra; mi wnaeth foderneiddio cyllidebau Prydeinig a pholisiau ariannol; ffrwynodd ddiwydiant Prydain ar gyfer ymdrech y Rhyfel Fawr ac fel Prif Weinidog fe dynnodd y wlad at ei gilydd a’i harwin i fuddugoliaeth yn 1918. Yn ystod y trafodaethau heddwch dilynol roedd yn un o’r Tri Mawr a ffurfiodd fap y byd.

Mae’n rhaid cofio a choffhau y cymeriad eithriadol ac amlochrog yma ac nid oes unlle gwell i wneud hyn nag yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, y pentref lle i fagwyd, a sy’n croniclo hanes rhyfeddol ei daith o’r pentref i Rif 10 Stryd Downing.

Dros gan mlynedd ers iddo dod yn Brif Weinidog erys yr unig Cymro Cymraeg erioed i wneud hynny, erys yr unig gyfreithiwr erioed i fod yn Brif Weinidog ac erys yr unig unigolyn o gefndir gwerinol tlawd heb unrhyw addysg ffurfiol tu hwnt i ysgol y pentref i fod yn Brif Weinidog.

Mae hanes Lloyd George yn unigryw yn hanes Cymru ac yn hanes Prydain. Mae Amgueddfa Lloyd George yn un o ddau amgueddfa yn unig wedi eu neilltuo’n arbennig i brif weinidogion (Amgueddfa Winston Churchill ydi’r llall).

Mewn cyfnod lle mae tlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol mor berthnasol ag erioed yn hanes Cymru a hanes Prydain mae’r amgueddfa yn adnodd o werth hanesyddol enfawr.

 

Ynglyn’r Amgueddfa

Mae Amgueddfa Lloyd George a Highgate yn lleoedd gwych i ymweld nhw. Byddwch yn darganfod rhagor am fywyd ac amseroedd hynod un o arweinwyr mwyaf Prydain.

Cliciwch yma i ddysgu rhagor

Dewch yn Gyfaill

Helpwch i gefnogi’r Amgueddfa drwy ddod yn Gyfaill. Mae Cyfeillion yn cael mynediad am ddim i’r amgueddfa yn ogystal gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig.

Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George