Mae Amgueddfa Lloyd George yn un o ddim ond dwy amgueddfa ym Mhrydain sydd yn benodol ar gyfer cyn Brif Weinidogion � y llall yw amgueddfa Winston Churchill. Rydym yn chwarae rhan bwysig mewn cadw, deall a choffau gwaith arweinydd hynod.
Mae�r amgueddfa�n geidwad i gofnodion ac arteffactau hanesyddol bwysig sy�n dangos bywyd ac amserau arweinydd rhyfel a diwygiwr cymdeithasol ysbrydoledig. Mae cyfoeth o wybodaeth yn ein casgliadau, rhai yn dal i aros am ragor o ymchwil.
Cyngor Gwynedd sy�n talu am redeg yr amgueddfa a bwythyn Highgate, gyda chefnogaeth bellach gan Gyfeillion Amgueddfa Lloyd George, sy�n elusen gofrestredig.
Mae pwyllgor gwaith y Cyfeillion yn cynnwys:
Cadeirydd – Emrys Williams
Llywydd – Philip George
Trysorydd – Dafydd H Williams
Ysgrifennydd – Richard J Roberts
Os hoffech ymuno �r Cyfeillion a helpu i gefnogi gwaith yr amgueddfa a mwynhau manteision unigryw eraill, cliciwch yma.