feat-become-a-friendYmunwch efo Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George fel y gallwn ni, gyda’n gilydd, ddod yn warcheidwaid etifeddiaeth hanesyddol bwysig Lloyd George.

Gwladweinydd, gweledydd, diwygiwr – mae stori David Lloyd George yn unigryw ym myd hanes Cymru a Phrydain. Yn fab i Lanystumdwy a’r unig Gymro Cymraeg erioed i fod yn Brif Weinidog, gwnaeth gyfraniad digyffelyb i ddiwygio cymdeithasol a gwleidyddol y wlad.

Wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar, mae Amgueddfa Lloyd George yn lle arbennig i ail-ddarganfod ei etifeddiaeth a’i weledigaeth – ac mae’n gyfnod cyffrous iawn i ymuno fel Cyfaill i’r Amgueddfa. Dewch yn rhan o’n cenhadaeth i goffáu’r arweinydd eithriadol hwn.

Helpwch i gefnogi Amgueddfa Lloyd George drwy ddod yn Gyfaill – ffi blynyddol o £15 y pen neu £25 am gwpwl. Fel aelod gwerthfawr, mae gennych hawl i:

  • Mynediad am ddim i Amgueddfa Lloyd George
  • Mynediad am ddim i’n darlithoedd cyhoeddus
  • Manylion am ddigwyddiadau a phrosiectau sydd ar ddod
  • Gwahoddiad i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cliciwch yma i ymuno arlein – https://membermojo.co.uk/lloydgeorgefriends

neu

Cliciwch yma i lawr lwytho’n ffurflen gais.

Ni fu erioed adeg erioed mor gyffrous i ddod yn Gyfaill.

Mae Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George yn elusen gofrestredig.