Clywodd ddisgyblion Blwyddyn 8 Coleg Cymunedol Tonypandy yn y Rhondda am ein hap’l ar y radio ac maent wedi gosod targed i’w hunain i godi £100 cyn penblwydd canmlwyddiant Lloyd George yn dod yn Brif Weinidog ar 7 Rhagfyr 2016.
Cymerodd y grwp ran mewn gweithgaredd steil Dragon’s Den i benderfynu pa syniadau fydda’n symud ymlaen i gael eu gweithredu a hyd yn hyn fe godwyd £10.50 gan fechgyn blwyddyn 8 drwy beintio wynebau yn ystod egwyl eisteddfod yr ysgol ar ol penderfynu ar y syniad gan wybod bod Lloyd George yn gefnogwr pwysig o ddigwyddiadau o’r fath. Mae’r merched hefyd wedi bod yn gweithio’n galed iawn ac wedi codi £46.00 drwy drefnu arwerthiant teisennau ar y cyd ’r dathliadau ar gyfer pen-blwydd y Frenhines.
Diolch yn fawr i Flwyddyn 8 Tonypandy am eu hymdrechion codi arian – os gwelwch yn dda dilynwch eu hynt ar eu tudalen facebook ysgol a’u gwefan http://tonypandycollege.co.uk a gweld beth y gallwch ei wneud i’w helpu i gyrraedd eu targed.